Mae tri math o siâp y gellir eu hadasu a'u mewnosod mewn ScribbleMap: petryal, cylch a pholygon.
Petryal
I fewnosod petryal mewn ScribbleMap:
1. Dewiswch yr offeryn Petryal o'r bar dewislen uchaf.
2. Dewiswch y lliw llenwi a'r lliw amlinell drwy glicio ar y dewiswr lliw ar gyfer pob un.
3. Dewiswch led y ffin a'r arddull llinell a ddymunir drwy glicio unwaith ar bob opsiwn.
4. Cliciwch a llusgwch i lunio'r petryal.
Cylch
I fewnosod cylch mewn ScribbleMap:
1. Dewiswch yr offeryn Cylch o'r bar dewislen uchaf.
2. Dewiswch y lliw llenwi a'r lliw amlinell drwy glicio ar y dewiswr lliw ar gyfer pob un.
3. Dewiswch led y ffin a'r arddull a ddymunir drwy glicio unwaith ar bob opsiwn.
4. Cliciwch a llusgwch i lunio'r cylch.
Polygon
I fewnosod polygon mewn Scribble Maps:
1. Dewiswch yr offeryn Polygon o'r bar dewislen uchaf.
2. Dewiswch y lliw llenwi a'r lliw amlinell drwy glicio ar y dewiswr lliw ar gyfer pob un.
3. Dewiswch led y ffin a'r arddull a ddymunir drwy glicio unwaith ar bob opsiwn.
4. Cliciwch a llusgwch i lunio un ochr i'r polygon.
5. Parhewch i lusgo, yna cliciwch i lunio pob ochr i'r polygon.
6. Cliciwch ddwywaith i orffen llunio'r polygon.
Symud siâp
I symud siâp:
1. Dewiswch y botwm Golygu Troshaenau.
2. Cliciwch a llusgwch y siâp i'r lleoliad o'ch dewis.
Golygu siâp
1. Dewiswch y botwm Golygu Troshaenau.
2. Dewiswch ddolen ar amlinell y siâp i addasu'r siâp un ochr ar y tro.
3. I greu dolenni ychwanegol, cliciwch ar y dolenni sydd â'r arwydd +.
Dileu siâp (llenwad a/neu ffin)
I ddileu siâp (llenwad a/neu ffin)
1. Dewiswch y botwm Rhwbiwr o'r ddewislen uchaf.
2. Gan fod y siâp yn cynnwys dwy ran (llenwad a ffin) gellir/rhaid dileu pob rhan ar wahân drwy glicio unwaith ar yr ardal i'w dileu.













