Mewnosod Marcwr
I fewnosod marcwr lleoliad:
1. Dewiswch yr offeryn Gosod Marcwr ar y bar dewislen ar y dde uchaf.
2. Bydd y llyfrgell farcwyr yn ymddangos. Dewiswch a chliciwch ar farcwr o'r llyfrgell.
3. Bydd pwyntydd y llygoden yn trosi i'r marcwr a ddewiswyd. Bydd blwch offer cylchdroi gwyn yn ymddangos ar y chwith uchaf.
I osod cylchdroad y marcwr lleoliad:
1. symudwch y llygoden dros y blwch cylchdroi
2. cliciwch a llusgwch y cylch du o amgylch y cylch llwyd yn ôl eich anghenion
4. Ar ôl gosod cyfeiriad y marcwr lleoliad, symudwch y pwyntydd i'r lleoliad a fwriedir ar y map a chliciwch unwaith i osod y marcwr. Bydd blwch deialog yn ymddangos.
5. Rhowch ddata yn y meysydd neu gadewch hwy'n wag. Cliciwch Cadw pan fydd wedi'i gwblhau.
Symud marcwr lleoliad
I symud marcwr lleoliad:
1. Dewiswch yr offeryn Golygu Troshaenau o'r bar dewislen ar y chwith uchaf.
2. Cliciwch a llusgwch y marcwr i'r lleoliad a fwriedir.
Dileu marcwr lleoliad
I ddileu marcwr lleoliad:
1. Dewiswch yr offeryn Dileu o'r bar dewislen uchaf.
2. Cliciwch unwaith ar y marcwr lleoliad i'w ddileu.







